Mae Jen, mam gariadus sy'n ffermio ym Malawi, yn breuddwydio bod ei phlant yn gallu cael yr addysg y maent yn ei haeddu. Mae ganddi 2 fab gweithgar sydd wedi ennill lleoedd yn y colegau gorau - ond ni all Jen fforddio anfon y ddau.
Ni ddylai unrhyw fam gael y dewis torcalonnus o ba blentyn i'w addysgu a pha un fydd yn colli allan ar ei breuddwydion.
Ni ddylai unrhyw berson ifanc sy'n gweithio'n galed gael ei orfodi i roi'r gorau i addysg, gan ei gloi mewn i dlodi.
Ni'n breuddwydio am fyd gwell. Rydym am i bob plentyn allu cael yr addysg sydd ei hangen arnynt i dorri’n rhydd o dlodi. Rydyn ni'n dychmygu dyfodol lle nad yw cnydau'n cael eu dinistrio gan seiclonau a'u golchi i ffwrdd gan lifogydd.
Gyda’n gilydd, gallwn helpu pobl i sicrhau dyfodol gwell i’w teuluoedd, gan roi’r cyfle iddynt gyflawni eu potensial.
Gyda'ch help chi, gallwn wireddu breuddwydion ledled y byd. Ni fyddwn yn stopio nes bod pawb yn gallu byw bywyd llawn, yn rhydd o dlodi.